wheelbarrow and pumpkins in a field

Home > Blog > Craf yr Afr (Welsh only)

Craf yr Afr (Welsh only)

Translation coming soon...

Un o’r pethau bach 'na sy’n gwneud i mi syrthio mewn cariad â’r gwanwyn yma yng Ngogledd Cymru bob blwyddyn yw Craf yr Afr (neu'r Garlleg Gwyllt) yn dangos yn un carped o ddail gloyw gwyrdd yn ein coedwigoedd ni, Mae mynd am dro drwy’r coed a sylwi ar yr arogl garlleg ysgafn yna yn yr awyr, bron fel petai rhywun yn coginio rhywle cudd yn wefreiddiol, ac yn arwydd pendant ein bod ni ar ddechrau ein Gwanwyn go iawn !

Fel arfer, mi ddewch o hyd iddo mewn llefydd cysgodol, llaith—coedwigoedd hynafol fel sydd ganddom ni o gwmpas Eryri, neu ar hyd glannau afonydd tawel ....ac mae digon ohonyn nhw pen yma hefyd! Mae’r dail yn wyrdd llachar, meddal, ac os y rhwbiwch chi nhw rhwng eich bysedd, daw’r arogl llesol 'na yn syth i'ch ffroenau. Mae’n anodd ei gamgymryd unwaith yr ydych wedi ymgyfarwyddo a fo.

Dwi wastad yn meddwl bod casglu Craf yr Afr yn beth eitha’ arbennig—dim ond mynd allan am dro a chael y fraint o ddod adre gyda rhywbeth blasus i’w goginio. Ond na phoener, does dim rhaid bod yn arbenigwr! Y peth pwysig yw bod yn siŵr mai Craf yr Afr ydy o (mae’r arogl yn allweddol), a pheidio byth â chasglu gormod. Tip bach: cymerwch dipyn bach o bob lle, fel bod y planhigyn yn cael parhau i dyfu’n iach, a bod chi'n cael y cyfle i sicrhau eich bod yn casglu'r deiliach cywir.

Un o fy hoff bethau i’w wneud efo fo yw pesto syml. Dail garlleg gwyllt, olew olewydd, caws caled (os oes gen ti), cnau—dyna ni. Eu cymysgu nhw i gyd yn un ac fydd gynnoch chi rhywbeth ffres, cryf ei flas, perffaith ar basta neu hyd yn oed ar fara tost cynnes. Neu jyst torri’r dail a’u taflu mewn salad—mae’n rhoi cic bach neis iddo.

Mae’r tymor yn fyr, fel petai natur yn ein hatgoffa i werthfawrogi’r pethau bach. Fel arfer rhwng mis Mawrth a Mai, ac wedyn mae’n diflannu bron mor sydyn ag y daeth. Felly os dach chi'n meddwl am fynd allan i chwilio amdano—allan a chi rwan hyn!

A dweud y gwir, mae’n fwy na dim ond bwyd. Mae’n esgus perffaith i arafu lawr, i wrando ar yr adar, ac i fwynhau’r tirweddau anhygoel sydd gennym ni yma yng Ngogledd Cymru. Weithiau, dyna’r rhan orau ohono i gyd.

Os ewch chi allan i chwilio amdano, gadewch mi wybod sut aeth hi—neu hyd yn oed well, dewch â jar o pesto draw a cawn ei fwynhau dros sgwrs, paned a rhywbeth bach i'w fwyta

  • Homemade wild garlic pesto

All Blogs