disgrifiad

Hafan > Amdanom

Amdanom

Sefydlwyd Cynnyrch Tir Cymru fel partneriaeth dielw yn 2025 gyda’r nod o greu grwp i gynhyrchwyr sy’n cynhyrchu neu sy’n defnyddio wir cynnyrch o dir Cymru. 

Nod y grwp yw codi ymwybyddiaeth a gwerth uwch i gynnyrch Cymreig sydd yn, ac wedi cael eu creu’n cynnwys unrhywbeth o dir Cymru – gwir cynnyrch y tir.  Yna gellir hyrwyddo a marchnata eu gwir cynnyrch o Gymru, cydweithio ar brosiectau a gweithgareddau lle gall eu busnesau elwa.

Sefydlwyr y grwp yw Taldraeth a Maeth Natur, sylweddolodd y ddau fusnes, drwy rannu stondin mewn gwyliau a marchnadoedd, fod yna fudd mewn cydweithio, rhwydweithio a chefnogaeth…gall gweithio’n annibynnol fod yn unig ar adegau a braf iawn yw cael rhywun wrth law i rannu gwybodaeth, syniadau ac uchelgais.  Mae cael un baner, gwefan neu siop yn ffordd haws i bobl allu cysylltu a ni, heb orfod gwario amser yn chwilota ar y we neu’r cyfryngau cymdeithasol. Mae llawer o wirionedd i'r hen ddywediad 'Mewn undeb mae nerth'.

Mae aelodau o’r grwp wedi rhestru ar y wefan yma.  Gall unrhyw gynhyrchwr wneud cais i fod yn rhan o’r grwp drwy lenwi’r ffurflen gais.  Byddwn yn ardystio i sicrhau fod eu cynnyrch yn wir gynnyrch o Gymru sy’n cydfynd a gofynion y grwp.  Mae cost aelodaeth bychan ar gyfer marchnata ac i gadw’r wefan yma’n fyw.

Ymunwch â ni fel cynhyrchwr a gwerthwr

Mirain a Catrin o Twrog mewn gwisg traddodiadol