Dysgodd Catrin Roberts ei hun am rinweddau planhigion gwyllt ei bro fel rhan o rannu gwybodaeth ar ei theithiau cerdded, ac mi fachodd ei diddordeb go iawn a dechreuodd ar gynnal teithiau cerdded yn benodol at hyn, er bydd y croen ac o ran ei goginio a'i fwyta. Aeth enw Catrin allan fel rhywun oedd yn gwneud eli a daeth merch leol ati i ofyn iddi wneud eli iddi, a dyma sut y cychwynwyd Maeth Natur, brand gofal croen naturiol wedi’i ysbrydoli gan gred syml: bod natur yn gwybod sut i faethu. Yr ELi LLeddfol oedd y gwreiddiol hwnnw a bellach mae ystod eang o eliau ar gael, yn ogystal a thrwythi bath.
Mae ei chynhyrchion gofal croen yn olew-seiliedig, yn defnyddio cynhwysion naturiol o ansawdd uchel, wedi’u dewis am eu priodweddau therapiwtig a'r planhigion a ddefnyddir am eu rhinweddau llesol yn rhai sy'n tyfu'n wyllt yn ei chae neu yn ei bro.
Mae pob cynnyrch yn cael ei wneud â llaw gyda gofal a bwriad, gan ganolbwyntio ar symlrwydd, cydbwysedd a pharch at y corff. A phob eli wedi eu trwytho a phlanhigion a gasglir oddiar dir gwyllt Cymru. Nod Catrin yw cynnig gofal croen sy’n gweithio mewn cytgord â natur — yn dyner, yn onest ac yn effeithiol.








