Hafan > Cynnyrch

Cynnyrch

Cynnyrch Tir Cymru – Cynnyrch Cymerig – Gwnaed yng Nghymru – o’r tir gan y bobl

Ein Cynhyrchwyr:

Pantri Taldraeth

Sefydlwyd Pantri Taldraeth gan Mirain Gwyn yn 2020, ble cynhyrchir cynnyrch cartref, lle defnyddir cynnyrch lleol, ar eu gorau yn eu tymor, i gynhyrchu sityni, cyffeithiau, jamiau a jelis. Tyfir llawer o'r ffrwythau ar safle - 'o'r ardd i'r jar' – a casglir â llaw.

Pantri Taldraeth
logo Pantri Taldraeth

Maeth Natur

Dysgodd Catrin Roberts ei hun am rinweddau planhigion gwyllt ei bro fel rhan o rannu gwybodaeth ar ei theithiau cerdded, ac mi fachodd ei diddordeb go iawn a dechreuodd ar gynnal teithiau cerdded yn benodol at hyn, er bydd y croen ac o ran ei goginio a'i fwyta. Aeth enw Catrin allan fel rhywun oedd yn gwneud eli a daeth merch leol ati i ofyn iddi wneud eli iddi, a dyma sut y cychwynwyd Maeth Natur, brand gofal croen naturiol wedi’i ysbrydoli gan gred syml: bod natur yn gwybod sut i faethu. 

Maeth Natur
logo Maeth Natur

Te Twrog

Yn nyffryn Maentwrog, Cymru, crwydrodd cawr caredig o’r enw Twrog dros y bryniau, yn casglu perlysiau gwyllt. Un diwrnod hydrefol cyfarfu â dwy fenyw fywiog, Mirain a Catrin, â’u basgedi’n llawn mintys, rhosmari, a phetalau rhosod. Tyfodd cyfeillgarwch wrth iddynt rannu straeon a chymysgu dail yn de, yn llawn enaid y tir. Yn fuan daeth eu stondin yn y ffair yn fan cyfarfod, lle roedd pob cwpan yn adrodd hanes chwerthin, traddodiad, a thir gwyllt Cymru. Felly y dechreuodd eu menter de - wedi’i gwreiddio mewn cyfeillgarwch, chwedloniaeth, a thir byw.

Te Twrog
logo Te Twrog

Glastraeth

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

Glastraeth
logo Cig Oen y Glastraeth