berfa a pwmpeni mewn cae

Hafan > Blog > Diwrnod yn casglu mefus

Diwrnod yn casglu mefus

Traddodiad ein teulu ni ers oeddwn yn blentyn yw mynd i gasglu mefus am ddiwrnod ganol mis Mehefin a hynny i ardal Wrecsam.  

Mae rhywbeth arbennig am dreulio diwrnod haf cynnes (gan ddewis diwrnod priodol) yn yr awyr agored, wedi'n hamgylchynu gan resi o fefus coch llachar. Mae casglu eich mefus eich hun yn weithgaredd hwyliog i bob oed a'r plant wrth eu boddau.

Y nod yw cychwyn ar ddiwrnod gallwn ddechrau'n weddol gynnar a hynny pan nad oes ysgol i'r plant. Os oes genym westion gwely a brecwast yn aros yna mae'n hwyrach arnom yn cychwyn gan gyrraedd y fferm ffrwythau tua 11 i ganol dydd. Mae'r plant yn mwynhau cael picnic cyn dechrau. Gan ein bod yn ymweld a'r un lleoliad bob blwyddyn rydym yn cadw ac ail ddefnyddio'r basgedi carbod neu y pecynnau plastic gan nodi hyn wrth y staff y fferm er mwyn iddynt dynnu costau'r basgedi/bwcedi o'r cyfaswm pwyso.

Yn y chwe mlynedd diwethaf, mae'r caeau mefus wedi'i troi yn fefus sy'n cael eu tyfu ar fyrddau sy'n gwneud gwaith o'u casglu llawer iawn hawsach gan nad oes angen ini blygu lawr.

Wrth ini gerdded am y rhesi, y gamp yw canfod llecyn nad oes llawer o bobl wedi bod yn hel yno'n barod a setlo ein stondin fel petai. Y neges i'r plant yw bwytewch cymaint ag y gallwch! Mae ansawdd a cyflwr y mefus yn ddibynnol iawn ar y tywydd wrth gwrs, ond maent can mil gwell na'r mefus y cewch mewn siop. Rydym ninnau yn ffwslyd a gofalus sut ydym yn hel y mefus achos rydym am i'r mefus barhau am o leiaf wythnos yn yr oergell. Y llynedd fe wnaeth y mefus gadw'n wych am bythefnos yn yr oergell. Y tric yw casglu'n ofalus drwy ddewis rhai perffaith yr un lliw o goch (dim darnau melyn ar wahan i'r hadau) cydio a torri'r coesyn gwyrdd a sicrhau fod y deilen wyrdd yn aros ar y mefus a'i rhoi yn y basged yn ofalus h.y. dim eu llechio a'u tolcio - mae'n cymryd amser. Sylweddolodd y plant yn fuan fod casglu mefus yn anoddach nag y mae'n edrych, ond roedd hefyd yn hwyl fawr ac yn flasus dros ben. Cyn hir, roedd ein basgedi yn llenwi.

Mae pawb arall sydd yn y cae mefus yn edrych mewn syndod arnom yn casglu gymaint a hwythau yn cerdded o amgylch gyda un neu ddau 'pynet' bychan.  Mae pobl hefyd yn synnu ein bod yn mynd mor bell o'n ardal i gasglu.  Rydym yn teithio i ardal Wrecsam oherwydd mae'r mefus yn fendigedig a credwn eu bod yn cael gwell hinsawdd a thywydd i'w tyfu.  Y rheswm ein bod yn casglu gymaint yw bod y mefus yn arbennig o flasus yn syth o'r cae - nid ydym yn prynu mefus weddill o'r flwyddyn - dim ond yn eu tymor!  oherwydd fod mefus archfarchnadoedd yn galed, diflas ac prin yn cadw am ddiwrnod. 

Byddaf yn cynhyrchu jam mefus Pantri Taldraeth yn flynyddol ac rydym yn mwynhau bwyta'r gweddill gyda hufan ia cartref sy'n bwdin penigamp am o leiaf wythnos a gwneir ysgytlaeth a smwthis.  Nid yw mefus yn cadw cystal mewn rhewgell fel y ffrwythau meddal eraill, felly byddwn yn eu mwynhau am y cyfnod byr yma o'r flwyddyn.

Ar ol llenwi'r basgedi mae'n dipyn o dasg eu cario o ben pellaf y cae i'r siop i'w pwyso a thalu (sydd fel arfer yn dri ffigwr!), a'u gosod yn ofalus yng nghist y car gyda'r arogl bendigedig yr holl ffordd adref.

Y gobaith bob blwyddyn yw dychwelyd nol am ddiwrnod arall o gasglu mefus ychydig wythnosau yn hwyrach er mwyn cael mwy ac yn bennaf, casglu mafon y tro hynny hefyd...ond yn anffodus eleni oherwydd sychder a'r fferm wedi planu planhigion newydd ifanc nid oedd digon o mafon ar ein cyfer.

Atgof sy'n dod i'r cof efo'r plant (gan nodi...wyt ti'n cofio.....) yw pan ddaeth cawod drom iawn fel oeddem yn gorffen llwytho'r car a Nain yn ceisio cau'r to 'sunroof' ac yn troi'r switch y ffordd anghywir a'i agor lled y pen nes oeddem yn lyb domen.

Mae diwrnod o gasglu mefus yn ffordd o fyw yn ein calendr blynyddol ni.  Mae'n ddiwnrod teuluol sy'n creu atgofion gwych.  Os nad ydych chi erioed wedi rhoi cynnig arni, cymerwch fasged a rhowch gynnig arni - efallai y byddwch chi'n darganfod traddodiad haf newydd rydych chithau yn ei garu.
 

  • Mirain yn blentyn yn casglu mefus yn yr 1980au
  • dynas a merch yn hel mefus mewn cae
  • dwy ferch ifanc yn mwynhau casglu mefus
  • Casglu mefus 2026
  • Jam Mefus Taldraeth

Pob Blog