00:00
09.06.2026
Dewch i roi help llaw yn ein caeau bwyd gwyllt, dysgu tipyn o arddio, a chael cyfle i ymarfer eich Cymraeg mewn cwmni da.
Manylion Pellach:
Wrth helpu i dyfu a gofalu am y cnydau, bydd cyfle ym mhob sesiwn i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg. Weithiau byddwn yn edrych ar batrymau iaith neu eirfa berthnasol i'r gwaith, ac weithiau dim ond cael sgwrs a mwynhau defnyddio'r Gymraeg mewn ffordd naturiol.
Mae'n ffordd wych o fagu hyder, gwneud ffrindiau newydd, a defnyddio'ch Cymraeg y tu allan i'r dosbarth, i gyd wrth fwynhau'r awyr iach a manteision garddio. Croeso i ddysgwyr o bob lefel – y peth pwysig yw dod draw a rhoi cynnig arni!
