15:00
26.05.2026
Taith gerdded planhigion a'u defnydd
....awn am dro i ddarganfod, cyffwrdd, blasu a dysgu am blanhigion defnyddiol ein bro, dan arweiniad clen a mwyn Catrin Roberts.
Manylion Pellach :
Mi fydd y teithiau cerdded yma'n eich ymgyfarwyddo a phlanhigion defnyddiol tymhorol, perlysiau gwyllt defnyddiol, hen draddodiadau a straeon, defnydd cyfoes ynglyn a sut i'w defnyddio. Mi fyddwn yn edrych sut i'w hadnabod, lle maent yn hoffi tyfu, sut i'w casglu'n gydwybodol a rhannu straeon a gwybodaeth pellach. Mi fydd yn addas i oedolion a phlant ac yn cynorthwyo nhw i weld tirlun cyfarwydd ar ei newydd wedd a chodi hyder ymgysylltu a phlanhigion gwyllt ein bro.
