00:00
09.06.2026
Taith gerdded planhigion a'u defnydd gyda gweithdy coginio a bwyta i'w ddilyn
....mi fydd y bore fel y taith uchod ond gyda'r cyfle i gasglu y bwyd gwyllt perthnasol ar gyfer y gweithdy coginio fydd yn dilyn y daith.
Manylion Pellach :
Taith fel yr uchod, ond gan gasglu bwyd gwyllt ar gyfer y sesiwn coginio.
Mi fydd y sesiwn coginio yn rhoi cyfle i chi ddysgu am sut i goginio'r planhigion y byddwch wedi eu cynaeafu yn saff, cyfuno'r bwyd gwyllt a bwyd o'ch gerddi neu'r siopau i greu prydau bwyd ymarferol a hawdd i'w gwneud. Mi fydd yn sesiwn ymarferol a chymdeithasol lle byddwn yn bwyta bwyd yn syth o'r gwrych i'r blat.
