Mae rhywbeth arbennig am dreulio diwrnod hydrefol a’r aer yn ffres mewn perllan afalau. Mae’r coed yn llawn afalau, mae arogl ffres yn yr aer, ac mae pob basged rydych chi’n ei llenwi yn teimlo fel dathliad bach o’r cynhaeaf.
Mae casglu afalau yn ffordd wych o fwynhau’r awyr agored ac addysgu ein plant o natur a bwyd yr un pryd.
Mae genym ni dair berllan sef un Taldraeth planwyd yn 2014, yn fuan wedi ini symud i'r safle ac dwy berllan o'r fferm lle fy magwyd gerllaw. Roedd fy Nhad yn hoff iawn o'i afalau ac yn awyddus i gadw'r perllannau ar y fferm, gan yr oedd ei Daid (fy Hen Daid i) yn crafftio coed afalau. Hefyd bu fy Nhaid i ochr fy Mam efo afalau seidr yn eu cartref hwythau yn Llanfair Caereinion. Gwerthwyd yr afalau yma i Bloomers, (yr adeg hynny) cludwyd hwy i orsaf dren Trallwng a'u rhoi ar y tren i Henffordd.
Yn ein perllannau ni ceir trawsdoriad o afalau bwyta a choginio a'r mwyafrif yn afalau Cymreig fel Afal Enlli, Afal Deiamwnt, Cox Cymreig, Afal Wern, Afal Trwyn Mochyn, Tin y Gwydd, Afal Pig Aderyn wedi'i crafftio gan yr arbenigwr a'r cymeriaid unigryw Ian Sturock. Ceir mwy o wybodaeth am y coed Cymreig yma ar eu gwefan www.iansturrockandsons.co.uk Mae'r afal coch "Discovery" yn ffefryn gan y plant gan ei fod yn binc tu mewn. Mae'r gerllyg yn cynnwys Garllyg Brenhines yr Wyddfa a Garllyg Castell Penrhyn.
Erbyn hyn rwyf wedi dod i ddeall pa afalau sy'n cadw orau yn ein drorau pwrpasol yn y seler felly casglaf rhai hynny'n syth o'r goeden yn ofalus i'w storio gan gadw llygaid arnynt hyd nes fyddaf wedi'i defnyddio i gyd erbyn tua mis Mawrth.
Dydi'r afalau bwyta ddim yn cadw cystal ac angen eu bwyta a'u defnyddio'n syth a gellir troi’r afalau hynny, yn sudd afalau cartref blasu. Dyma gyfle hefyd i ddefnyddio'r afalau sydd wedi syrthio i'r llawr neu wedi'i tolcio a'i difrodi.
Cyn dewis yr afalau, mae’n bwysig dewis rhai sy’n aeddfed ac yn barod. Dylai afal aeddfed ddod oddi ar y goeden yn hawdd gyda thro ysgafn, yn hytrach na bod angen ei dynnu. Gallwch hefyd weld os yw'r adar wedi dechrau pigo arnynt sy'n arwydd o'i aeddfedrwydd.
Ar ôl i ni gasglu, roedd hi'n bryd troi'r cynhaeaf yn sudd - fe ddechreuais wneud sudd yn 2025 ac sy'n draddodiad yma erbyn hyn gyda'r teulu cyfan yn cymryd rhan. Yn gyntaf, mae angen golchi'r afalau gan dynnu a thorri unrhyw rannau oedd wedi'u difrodi neu'n pydru i ffwrdd. Yna mae angen manu'r afalau yn fan cyn eu trosglwyddo i'r peiriant gwasgu i echdynnu'r sudd. Yna mae'r sudd afalau euraidd yn dechrau llifo'n syth a chyn hyd yn oed gorffen llenwi'r peiriant gwasgu, mae'r plant yn rhuthro am gwpan i flasu'r sudd cyntaf.
Po fwyaf ffres yw'r afalau y mwyaf persawrus a melys yn naturiol y mae'r sydd yn tueddu i fod. Gellir hidlo'r sudd os yw'n well gennych ddiod esmwythach er bod gadael peth o'r mwydion naturiol yn rhoi gwead mwy trwchus a gwledig iddo.
Mae'n hanfodol boteli'r sudd yn syth mewn boteli glan iawn wedi'i stereleiddio gan adael modfedd o'r top yn wag. Gall y sudd gadw'n iawn yn yr oergell am tua 4 i 5 diwrnod. Os ydych angen eu cadw'n hirach yna gallwch ei rewi mewn carton (glan) neu ei bastereiddio.
Mae modd pastereiddio gartref eich hunain drwy ferwi dwr mewn sosban fawr, rhoi lliain llestri neu dowel yng ngwaelod y sosban a rhoi'r boteli i mewn yn ofalus fel dull 'bain marie' (gallaf ffitio tua 7 botel mewn sosban yr un pryd ar yr Aga). Yna mae angen dod a'r sudd i dymheredd o 70 - 73 gradd selsiws a'i fud-ferwi ar y gradd yma am 20 munud. Gwyliwch nad yw'r tymheredd yn mynd yn uwch a fod y boteli'n cracio. Wrth i'r sudd fud-ferwi mae'n chwyddo ac yn cyrraedd top y boteli ac wrth i'r sudd oeri mae'n gostwng / shrincio yn ol i'r lefel neu is - byddaf i'n topio'r boteli yn ol i fyny i'r top cyn eu storio yn y selar. Gall y sudd wedyn gadw am 2 flynedd.
Gerllyg - mae creu sudd gerllyg yn union yr un canllaw ag egwyddor a creu sudd afal. Mae'n fendigedig ac yn felys iawn. Gallwch hefyd gyfuno'r ddau sudd sy'n ddelfrydol os mai ychydig o gerllyg sydd gennych.
Mae ein gerllyg yn dueddol o fod yn galed pan byddwn yn eu casglu felly mae creu sudd ohonynt yn hwylus i ni eu defnyddio. Fel arall y ffordd rydym ni'n eu haeddfedu yw rhoi'r gerllyg mewn dror wag tywyll am 5 - 7 diwrnod neu fwy - ond y gamp yw cofio amdanynt a'u gwirio bob yn ail ddiwrnod.
Byddaf i'n defnyddio afalau coginio ar gyfer gwneud siytnis, jelis, saws afal a'i rewi, pwdinnau fel afal pob, tartenni, briwdda mins peis, pwdinnau Nadolig a stwffin.
Yn sicr mae'n foddhad yfed sudd heb ychwanegiadau wedi'i wneud o afalau rwyf wedi'u casglu. Mae'n iachus, ddi-gost, blasu'n ffres, organic ac yn llawn blasau frwythau a'r hydref. Mae'r broses o dyfu, casglu a cynaeafu i baratoi yn llawn mwynhau y byddwn yn parhau i wneud yn flynyddol nawr...Iechyd Da!
- Mirain a'i merched efo'r sudd afalau wedi'i botelu
Mirain a'i merched efo'r sudd afalau wedi'i botelu
- Sudd afalau
Sudd afalau
- Sudd gerllyg
Sudd gerllyg



